graphic

Canolfannau Cerdyn C

Cydsynio/Camfanteisio/Secstio

Beth yw Secstio?

Secstio yw pan fydd rhywun yn anfon neu’n derbyn neges destun, delwedd neu fideo rhywiol (llun person noeth, person mewn dillad isaf, ‘lluniau budr’, neges rywiol) ar eu ffôn symudol, fel arfer ar ffurf neges destun.

Mae llawer o resymau pam y mae pobl yn secstio: mae pawb arall yn gwneud, rydych mewn cariad ac yn ymddiried yn y person yr ydych yn anfon atynt, rydych yn ymfalchïo yn eich corff, o dan bwysau i wneud hynny. 

Ond CYN i chi anfon llun, meddyliwch:

Beth allai ddigwydd iddo? 
Unwaith y byddwch wedi ei anfon, nid oes gennych reolaeth drosto bellach.  Gellir ei bostio unrhyw le ar y rhyngrwyd. Gallai ymddangos ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol neu safleoedd pornograffi hyd yn oed.

Pwy allai ei weld? 
Peidiwch anfon unrhyw beth na fyddech eisiau i’ch rhieni, eich athrawon neu eich ffrindiau neu gyflogwr posibl y dyfodol ei weld. Hyd yn oed os ydych yn ymddiried yn gyfan gwbl yn rhywun, gallai pobl eraill ddefnyddio eu ffôn a’i weld ar ddamwain a’i ddefnyddio.

Beth yw’r peryglon?
Hyd yn oed os ydych yn defnyddio webcam neu ap fel Snapchat, gall y person dynnu llun o’r sgrin mewn eiliadau.

Pam ydych chi eisiau ei anfon?
Os ydych eisiau creu argraff ar rywun, gallwch wneud hynny mewn ffyrdd eraill.  Yn y rhan fwyaf o achosion, gall secstio gael effaith i’r gwrthwyneb a gallech gael eich ystyried fel person gwahanol i’r hyn ydych mewn gwirionedd.

A yw secstio yn erbyn y gyfraith?
Mae dwy elfen i’w hystyried yma, cael lluniau secstio ar eich ffôn neu gyfrifiadur ac anfon lluniau neu fideos secstio:

•    Cael lluniau neu fideos secstio ar eich ffôn neu gyfrifiadur 

Os ydych o dan 18 oed, mae’r gyfraith yn eich ystyried yn blentyn.  Felly, os oes gennych unrhyw ddelweddau neu fideos anweddus o rywun sydd o dan 18 oed, yn dechnegol, byddai gennych ddelwedd anweddus o blentyn yn eich meddiant – hyd yn oed os ydych o’r un oed. Mae hyn yn drosedd yn unol â Deddf Amddiffyn Plant 1978 a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988. 

•    Anfon lluniau neu fideos secstio 

Os ydych o dan 18 oed ac yn anfon, lanlwytho neu’n anfon delweddau neu fideos anweddus ymlaen at ffrindiau neu gariadon, byddai hyn hefyd yn torri’r gyfraith, hyd yn oed os ydynt yn lluniau ohonoch chi ('hunluniau').