Gelwir weithiau yn ‘coil’
Sut maent yn gweithio?
- Y brif ffordd yw atal y sberm rhag cyrraedd wy. Mae IUCD yn gwneud hyn trwy atal sberm rhag byw yng ngheg y groth, y groth neu’r tiwb ffalopaidd.
- Gall hefyd weithio trwy atal wy wedi ei ffrwythloni rhag mewnblannu yn y groth.
Am ba hyd mae’n parhau?
- Ceir mathau gwahanol, sydd yn effeithiol am bump i ddeng mlynedd, yn dibynnu ar y math.
Pa mor effeithiol ydyw?
- Mae tua 99 y cant effeithiol yn dibynnu pa IUD a ddefnyddir.
- Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, y bydd llai nag un neu ddwy o fenywod mewn 100 yn beichiogi mewn blwyddyn.
Sut caiff ei osod?
- Bydd meddyg neu nyrs gymwys yn gosod yr IUCD trwy ei osod yn eich croth trwy archwiliad mewnol. Fel arfer mae’n cymryd tua 20 munud. Gall fod yn anghyfforddus ar y pryd ond gallwch gael anesthetig lleol neu laddwyr poen i helpu gyda hyn. Gall hyn fod ychydig yn anghyfforddus a gallwch waedu ychydig am rai diwrnodau wedi hynny. Bydd y person sy’n gosod eich IUCD yn eich cynghori.
Sut caiff ei dynnu?
- Bydd meddyg neu nyrs gymwys yn tynnu’r IUCD trwy dynnu’n ysgafn ar yr edau sydd ynghlwm wrtho er mwyn ei dynnu trwy geg y groth ac allan o’ch corff.
Buddion
- Mae’n gweithio cyn gynted ag y caiff ei osod.
- Mae eich ffrwythlondeb naturiol yn dychwelyd cyn gynted ag y caiff yr IUCD ei dynnu.
- Mae’n hawdd ei dynnu
- Nid yw’n cael ei effeithio gan feddyginiaethau eraill
anfanteision posibl
- Gall eich misglwyf barhau yn hirach, bod yn drymach neu’n fwy poenus – gallai hyn wella ar ôl ychydig fisoedd.
- Mae’n rhaid iddo gael ei osod yn ofalus gan feddyg neu nyrs brofiadol oherwydd gall fod rhai cymhlethdodau prin iawn—bydd y clinig yn trafod y rhain pan fyddwch yn mynychu.