Gelwir weithiau’n 'Depo'
Sut maent yn gweithio?
- Y brif ffordd mae’n gweithio yw atal yr ofarïau rhag rhyddhau wy (ofyliad) bob mis. Mae hefyd:
- Yn tewhau’r mwcws yng ngheg y groth, sy’n ei wneud yn anodd i’r sberm deithio i gyrraedd wy.
- Mae’n gwneud leinin y groth yn deneuach sy’n ei wneud yn llai tebygol o dderbyn wy wedi ei ffrwythloni (mae hyn yn golygu efallai na fyddwch yn cael misglwyf).
Am ba hyd mae’n parhau?
- Dylech gael chwistrelliad bob 11—12 wythnos. Byddwch yn cael gwybod pryd i ddychwelyd i gael eich chwistrelliad nesaf.
Pa mor effeithiol ydyw?
- Cyhyd â’ch bod yn mynychu ar amser i gael chwistrelliad, mae’n fwy na 99% effeithiol. Mae hyn yn golygu, wrth ddefnyddio’r dull hwn, y bydd llai nag un fenyw mewn 100 yn beichiogi mewn blwyddyn.
Buddion
- Nid oes yn rhaid i chi feddwl am ddulliau atal cenhedlu cyhyd â bod y chwistrelliad yn parhau.
- Nid yw’n cael ei effeithio gan feddyginiaethau eraill.
- Gall leihau misglwyf poenus a helpu gyda symptomau cynfisglwyfol rhai menywod.
- Gallwch ei ddefnyddio os nad ydych yn gallu defnyddio estrogenau fel y rheiny yn y bilsen gyfun.
- Gallwch ei ddefnyddio os ydych yn bwydo ar y fron.
anfanteision Posibl
- Ar ôl rhoi’r gorau i’w ddefnyddio, gall eich misglwyf a’ch ffrwythlondeb arferol gymryd peth amser i ddychwelyd.
- Gallech brofi gwaedu afreolaidd a all barhau am rai misoedd ar ôl i chi roi’r gorau i gael y chwistrelliad.
- Mae rhai menywod yn cael cur pen, acne, newidiadau mewn hwyl a bronnau tyner.
- Mae’r chwistrelliad yn parhau am y cyfnod llawn o 11 neu 12 wythnos ar ôl i chi ei gael, felly os ydych yn cael sgil-effeithiau, byddant yn parhau yn ystod y cyfnod hwn a pheth amser wedi hynny—nid oes unrhyw wrthgyffur.