graphic

Canolfannau Cerdyn C

HIV/AIDS

Mae HIV yn sefyll am Firws Diffyg Imiwnedd Dynol ac mae’n hysbys bod y firws yn achosi AIDS (Syndrom Diffyg Imiwnedd Caffaeledig).   

Mae HIV yn lladd neu’n niweidio celloedd system imiwnedd y corff, gan ddinistrio’n raddol ei gallu i frwydro yn erbyn heintiau a rhai canserau penodol.
 
Dywedir bod AIDS ar rywun sydd wedi’i heintio â HIV dim ond pan fydd y difrod i’r system imiwnedd wedi cyrraedd difrifoldeb penodol neu pan fyddant wedi datblygu un neu fwy o restr o 26 o afiechydon sydd fel arall yn anghyffredin, o ganlyniad i fethiant y system imiwnedd. Gall gymryd rhwng ychydig fisoedd i dros ddeng mlynedd i rywun sydd wedi’i heintio ddatblygu symptomau.
 
Nid oes brechlyn nac iachâd ar gael ar gyfer haint HIV eto ond ceir triniaeth sy’n arafu cynnydd y clefyd yn sylweddol.
Mwy o wybodaeth am HIV/AIDS gan Galw Iechyd Cymru

Pwy sy’n ei gael a pha mor ddifrifol ydyw?

Caiff HIV ei drosglwyddo oddi wrth rywun sydd wedi’i heintio trwy drosglwyddo hylifau’r corff, fel gwaed, semen, hylif o’r wain a llaeth y fron.
Mae pedair prif ffordd o ddal HIV: 
Trwy gael cyfathrach rywiol heb ddiogelwch (drwy’r anws, drwy’r wain neu drwy’r geg) â phartner sydd wedi’i heintio. 
Trwy bigiad neu drallwysiad gyda gwaed gan rywun sydd wedi’i heintio.
Trwy ddefnyddwyr cyffuriau’n rhannu nodwyddau a chwistrellau sydd wedi’u halogi â gwaed wedi’i heintio â HIV.
O fam wedi’i heintio i’w baban yn ystod genedigaeth neu drwy fwydo ar y fron.
Gall unrhyw un gael eu heintio gan y firws drwy’r dulliau sydd wedi’u disgrifio uchod. Nid yw HIV yn cael ei ledaenu drwy gysylltiad cymdeithasol bob dydd â rhywun sydd wedi’i heintio. Ni all cyffwrdd, ysgwyd dwylo, cofleidio, pesychu na thisian drosglwyddo’r firws.
 
Mae rhai grwpiau y mae eu gweithgareddau’n gallu peri risg uwch iddynt nag eraill o gael eu heintio. Mae’r rhain yn cynnwys: dynion sy’n cael cyfathrach rywiol gyda dynion (MSM), defnyddwyr cyffuriau sy’n chwistrellu (IDU), pobl sydd wedi byw yn oedolion mewn gwledydd lle mae trosglwyddo HIV gan bobl heterorywiol yn gyffredin (yn enwedig de, dwyrain a chanolbarth Affrica) a babanod sy’n cael eu geni i famau heintiedig.
 
Mae HIV yn haint difrifol. Heb driniaeth, disgwylir i’r rhan fwyaf o bobl farw o’u haint.

Triniaeth

Ar hyn o bryd, nid oes iachâd na brechlyn ar gyfer HIV ond erbyn hyn ceir triniaeth o’r enw triniaeth gwrthretrofiraol hynod weithgar (highly active antiretroviral treatment – HAART). Mae’r driniaeth yn llethu’r firws HIV a gall ddadwneud y niwed i’r system imiwnedd am beth amser, gan estyn hyd oes y rhai sydd wedi’u heintio. Fodd bynnag, nid iachâd mohono.
 
Mae cyfundrefnau HAART hefyd yn gofyn am lawer iawn o ymroddiad a chydymffurfiad gan y claf er mwyn iddynt fod yn effeithiol. Caiff triniaeth â chyffuriau gwrthretrofiraol ei chynnig i bob menyw feichiog sy’n HIV-positif gan ei bod yn gallu gostwng y perygl y caiff y baban ei heintio yn sylweddol.

Pa mor gyffredin yw HIV/AIDS?

Hyd yn hyn mae tua 65 miliwn o bobl wedi cael eu heintio â HIV ledled y byd ac mae 25 miliwn o bobl wedi marw o AIDS ers iddo gael ei gydnabod am y tro cyntaf ym 1981.
 
Mae dros ddwy ran o dair o’r holl bobl sydd wedi’u heintio â HIV yn byw yn Affrica Is-Sahara ond mae epidemigau cynyddol ohono yn nwyrain Ewrop ac yng Nghanolbarth Asia.
 
Yn 2007, amcangyfrifodd yr Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA) fod tua 77,400 o bobl â HIV yn byw yn y DU. Mae tua 28% ohonynt heb ddiagnosis ac felly nid ydynt yn ymwybodol eu bod wedi’u heintio â HIV. 
 
Yng Nghymru, hyd at ddiwedd Rhagfyr 2008, roedd 1600 o unigolion wedi cael diagnosis bod yr haint HIV arnynt.
 
Mae mwy o wybodaeth am waith goruchwylio’r haint HIV yng Nghymru ar gael ar ficrowefan Diogelu Iechyd GICCC trwy ddilyn y ddolen: cyfraddau a goruchwylio HIV yng Nghymru

Atal

Gall dynion a menywod sy’n cael cyfathrach rywiol leihau eu risg o gael HIV trwy fabwysiadu arferion ‘rhyw diogel’ sy’n cynnwys; osgoi cyfathrach rywiol heb ddiogelwch, defnyddio condomau’n gywir ac yn gyson, cael perthynas unweddog â phartneriaid sydd heb eu heintio a lleihau nifer eu partneriaid rhywiol.
 
I helpu atal haint, ni ddylai defnyddwyr cyffuriau sy’n chwistrellu rannu nodwyddau, chwistrelli ac offer chwistrellu arall gydag unrhyw un arall a dylent gael gwared ar offer wedi’i ddefnyddio yn ddiogel. Mae mamau HIV-positif yn cael eu cynghori i beidio â bwydo ar y fron oherwydd gall y firws gael ei drosglwyddo i’w baban drwylaeth y fron.
 
Er 1985 mae’r holl roddion gwaed yn y DU wedi cael eu sganio am HIV, gan olygu mai prin iawn yw’r perygl o gael yr haint drwy drallwysiad gwaed mewn ysbyty. Mae hyn yn wir ar gyfer llawer o wledydd datblygedig. Mewn gwledydd sy’n datblygu, yn enwedig y rhai lle mae’r haint HIV yn llawer mwy cyffredin, gall perygl sylweddol fod o ddal HIV drwy gyfrwng gweithdrefnau meddygol.
 
Mae unrhyw un sy’n amau bod HIV ganddynt neu sy’n tybio bod ambell ymddygiad penodol wedi peri bod mwy o risg iddynt o ddal y firws yn cael eu cynghori i gael prawf HIV. Gall darganfod haint HIV yn gynnar fod o fudd oherwydd bydd iechyd unigolyn sy’n HIV-positif yn cael ei fonitro’n agos a gellir cynnig triniaeth pan fo’i hangen. Hefyd, gall yr unigolyn gymryd camau i atal trosglwyddo’r firws i bobl eraill.
 
Gall unigolion ofyn am brawf HIV naill ai gan eu meddyg teulu neu gan glinig meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM), ac mae rhestri o’r rhain ar gael o wefan y Gymdeithas Cynllunio Teulu. Mae clinigau GUM yn hollol gyfrinachol, gellir eu mynychu gan bobl o bob oedran ac ni fyddant yn rhoi gwybod i feddygon teulu am y canlyniadau oni bai bod y claf yn gofyn iddynt wneud hynny. Mae rhai elusennau HIV/AIDS, fel Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, hefyd yn cynnig sgrinio cyfrinachol.

Lleihau’r effaith yng Nghymru

Mae GICCC wedi sefydlu’r Rhaglen Iechyd Rhywiol sy’n casglu ac yn coladu data ar lefelau’r heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys HIV, ymysg poblogaeth Cymru. Mae data o’r fath yn caniatáu am nodi tueddiadau arwyddocaol ac unrhyw grwpiau penodol o’r boblogaeth sy’n cael eu heffeithio, a bydd yn galluogi i wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol o ansawdd uchel, hygyrch a phriodol gael eu cyflwyno’n effeithiol, mewn partneriaeth â chyrff cenedlaethol a lleol eraill ac wrth gefnogi’r cyrff hyn.